P-06-1363 Achubwch ein Gwasanaeth Tân ac Achub

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Gavin Roberts, ar ôl casglu 1,937 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, ynghyd â’r Awdurdod Tân, yn bwriadu israddio gorsafoedd Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy o orsafoedd 24 awr i orsafoedd sydd wedi’u staffio yn ystod y dydd, gan adael y gorsafoedd yn wag gyda’r nos. (Opsiwn 2).

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr holl opsiynau i sicrhau y gellir cadw gorsafoedd wedi’u staffio 24 awr y dydd mewn canolfannau trefol mawr fel Y Rhyl, a chymunedau tebyg ym mhob rhan o Gymru. Mae’r tri opsiwn presennol yn cynnig toriadau, cau gorsafoedd ac israddio safonau’r gwasanaethau yn ein trefi arfordirol.

 

Ar hyn o bryd, mae tair gorsaf amser llawn yng ngogledd Cymru, sef Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a’r Rhyl. Mae staff yno 24 awr o’r dydd, 7 diwrnod yr wythnos. O dan y cynigion presennol, gall Y Rhyl a Glannau Dyfrdwy gael eu hisraddio i orsafoedd sydd â staff neu griw yno yn ystod y dydd yn unig, gan ddibynnu ar bersonél ar alw yn ymateb o’u cartrefi gyda’r nos. Ar y cyd â’r terfyn cyflymder 20mya newydd, rhagwelir y gallai fod 8-10 munud o oedi wrth gyrraedd digwyddiad.

 

Mewn tân, mae pob eiliad yn bwysig, a bydd hyn yn sicr o achosi anafiadau, a hyd yn oed marwolaethau.  

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Aberconwy

·         Gogledd Cymru